Fel y cerddwn ar ein taith

Fel y cerddwn ar ein taith drwy'r byd,
Boed in' ddilyn Dewi Sant o hyd;
Os dilynwn ninnau ef,
Cerdded fyddwn ar y ffordd i'r nef.

Cytgan:

Yna os dilynwn ninnau'i gamre ef,
Cerdded fyddwn ar y ffordd i'r nef.

Dewi fu i Dduw yn ffyddlon was
Wrth bregethu efengylau gras.
Teithiodd yntau drwy ei oes
Gan gyhoeddi mawredd Crist a'i Groes.

Gobaith Cymru heddiw yw ei phlant -
Etifeddion þm i Dewi Sant.
Iesu, cadw ni drwy'r daith,
Yn ein chwarae, a thra wrth ein gwaith.

Ceisiwn fyw'n bywydau ar dy lun;
Gwna ni'n weision da i Ti dy hun.
Gwna ni'n llawen, dewr, a chry',
Trwy dy Air a'th Sacramentau di.

Rho in' ffydd a sêl fel Dewi gynt;
Boed ei fendith yntau ar ein hynt.
Wrth in' godi d'Eglwys di
Down â Theyrnas Dduw i'n daear ni.

Efelychiad o gerdd gan William Watkins.

I'w ganu ar y dôn Un Cam Bychan o "Mwy o Glap a Chân". (Ail argraffiad 1993.)


NOL