Angel yn ymweld â Sant

Ymhell, bell yn ôl, pan oedd brenhinoedd yn teyrnasu ym mhob ardal yng Nghymru, roedd yna deulu brenhinol yng Ngheredigion a ddaeth yn enwog drwy'r wlad am eu nerth a'u dewrder. Brenin y llwyth oedd Cunedda, rhyfelwr o fri. Y Rhufeiniaid oedd yn rheoli'r wlad ar yr adeg honno, ond rhoesant y gwaith o gadw'r heddwch yng Ngogledd Cymru i Cunedda a'i feibion.

Cannoedd o flynyddoedd wedi hynny roedd teulu Cunedda yn dal i reoli Ceredigion, a phennaeth y llwyth oedd dyn o'r enw Sant. Un noson cafodd Sant freuddwyd; gwelodd angel a ddywedodd wrtho y byddai, wrth hela drannoeth, yn dod o hyd i dri thrysor - carw, pysgodyn, a dil mêl. Roedd i ddanfon rhain yn anrhegion i fynachlog yng ngogledd Sir Benfro, lle y byddai ei fab rhyw ddiwrnod yn derbyn ei addysg. Ar ôl y freuddwyd roedd Sant wedi drysu'n lân - nid oedd ganddo ef fab! Beth, felly, oedd ystyr y freuddwyd?

Roedd Sant yn sylweddoli bod arwyddocâd arbennig i bob un o'r tri thrysor. Yr oedd y carw yn cynrychioli nerth daioni dros ddrygioni; cynrychiolai'r pysgodyn fywyd sanctaidd a disgybledig; a chynrychiolai y dil mêl ddoethineb - yr union rinweddau sydd i'w gweld mewn arweinydd crefyddol arbennig iawn.

Y bore trannoeth, dihunodd Sant yn llawn brwdfydedd - yn eiddgar i fynd i hela ar gefn ceffyl. Disgleiriai'r haul drwy'r fantell o ddail tra roedd yn marchogaeth yn y goedwig. Ac wrth iddo garlamu ar draws y caeau, gwelodd yn y pellter garw yn yfed o ddðr croyw afon Teifi. Yn bwyllog cododd ei fwa saeth ac anelu at yr anifail. Gollyngodd y saeth gan ladd y carw. Gyda chri o lawenydd gwnaeth ei ffordd yn gyflym tuag at yr afon. Wedi cyrraedd, sylwodd ar gwch gwenyn ar ymyl y dðr, ac yn ofalus tynnodd allan ohono ddil mêl euraid. Dim ond un trysor oedd ar ôl - y pysgodyn. Ond roedd dal pysgod yn grefft y byddai pob gðr Celtaidd wedi ei ymarfer o'i fachgendod - ac yn grefft roedd Sant wedi ei hen feistroli. Teimlai Sant yn gyffrous wrth ddod o hyd i'r tri thrysor - ac fe'u hanfonodd hwy i'r fynachlog yn Sir Benfro, gan ufuddhau i orchymyn yr angel roedd wedi ei weld yn ei freuddwyd.


NOL