Pererindod i Jerwsalem

Daeth daioni Dewi a'i gariad at Dduw yn enwog ymhlith y bobl. Ar hyd yr oesoedd roedd pobl grefyddol wedi dyheu am fynd ar bererindod i fannau cysegredig - ac nid oedd Dewi yn eithriad. Y pererindod mwyaf pwysig allai unrhyw Gristion ymgymryd ag ef oedd pererindod i'r Wlad Sanctaidd.

Un noswaith ymwelodd angel â Dewi, gan ddwyn neges y dylai baratoi trannoeth ar gyfer taith i Jerwsalem gyda'i gyfeillion Teilo a Padarn. Nid oedd Dewi yn deall sut y gallai Teilo a Padarn gyd-deithio gydag ef, gan eu bod yn byw mor bell i ffwrdd. Dywedodd yr angel y gofalai ef am hynny.

Paratôdd Dewi ar frys ar gyfer y daith, gan fendithio ei fynachod wrth iddo adael y bore canlynol. Ar y ffordd, fe wnaeth gyfarfod â Teilo a Padarn - yn union fel yr oedd yr angel wedi dweud. Hwyliodd y tri dros y môr i Ffrainc. Er nad oeddyn nhw'n medru siarad ieithoedd rhai o'r gwledydd yr oeddynt yn teithio drwyddynt, rhoddodd Duw iddynt y gallu i ddeall a siarad â phobl o wahanol genhedloedd.

Roedd Jerwsalem, y Ddinas Sanctaidd, yn cael ei rheoli gan ðr sanctaidd yn dwyn y teitl 'Patriarch'. Fel roedd y tri mynach yn agosáu at Jerwsalem, ymddangosodd angel i'r Patriarch gan ddweud wrtho am y Cristnogion pwysig oedd ar fin ymweld â'r ddinas. Cafodd hefyd orchymyn i'w croesawu yn wresog ac i'w anrhydeddu drwy eu gwneud yn esgobion.

Rhoddodd y Patriarch groeso mawr iddynt. Cawsant eu trin fel brenhinoedd, a rhoddwyd gorsedd arbennig i bob un o'r tri. Yn ystod yr ymweliad, bu'r tri yn siarad am Dduw, gan ddiolch iddo am wneud eu taith yn bosibl.

Cyn iddynt ddychwelyd i'w gwlad eu hunain, dangosodd y Patriarch bedwar o anrhegion cysegredig roedd yn bwriadu eu cyflwyno iddynt: allor, cloch, ffon, a thiwnig aur. Sylweddolodd y Patriarch eu bod yn rhy drwm i'w cario yn ôl i Gymru, felly fe'u cludwyd yno gan angylion. A phan ddychwelodd Dewi a'i ffrindiau adref, fe welsant fod yr anrhegion yno yn eu disgwyl. Unwaith eto fe wnaeth y tri foli Duw am ei ddaioni. Bu'r bererindod yn daith y byddai pob un ohonynt yn ei chofio am byth.


NOL